Edward Jones: Bardd y Brenin – Elinor Bennett

13:00, 17 Medi

Am ddim

Ymunwch ag Elinor Bennett i glywed hanes arbennig Edward Jones, mab ffarm o Wynedd, a esgynnodd i fod yn delynor i’r Brenin George IV.

Yn delynor, athro a chasglwr cerddoriaeth o fri, gweithiodd Jones yn ddi-saib er mwyn sicrhau y byddai cenedlaethau ar ei ôl yn gwybod alawon traddodiadol ei famwlad.

Heb ei waith manwl a gofalus yn casglu cerddoriaeth a barddoniaeth gan delynorion, beirdd a chantorion, a’u cyhoeddi, mae bron yn sicr y byddai llawer o gerddoriaeth draddodiadol Cymru, gan gynnwys Llwyn Onn, Ar Hyd y Nos a Chodiad yr Ehedydd, wedi mynd yn angof ymhell cyn heddiw.

Ym Medi 1824, bu farw Edward Jones, ‘Bardd y Brenin’, mewn tlodi ac unigrwydd yn Llundain. Bydd y digwyddiad hwn yn cofio un o gymwynaswyr mwyaf cerddoriaeth Cymru, ac yn dathlu’r ffaith iddo sicrhau bod plant a phobl ifanc Cymru heddiw yn gwybod ac yn canu ein halawon traddodiadol.

Mae Elinor Bennett ymhlith telynorion mwyaf blaenllaw Cymru, ac mae wedi chwarae gyda holl brif gerddorfeydd Prydain, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Llundain, y Philharmonia a Cherddorfeydd Siambr Lloegr. Hi oedd Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Gerdd William Mathias hyd 2008, a bu’n Athro’r Delyn ar Ymweliad yn Academi Frenhinol Llundain ac Ysgol Gerdd y Guildhall, Llundain.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o raglen digwyddiadau Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.