Fleetwood Bac

20:00, 20 Rhagfyr

£22

Wedi’i gymeradwyo gan Mick Fleetwood ei hun, FLEETWOOD BAC oedd Band Teyrnged Fleetwood Mac cyntaf y byd, yr unig deyrnged Mac i efelychu’r arlwy clasurol ‘Rumours’ yn ddilys.

Dros y blynyddoedd maen nhw wedi derbyn adolygiadau gwych gan bapur newydd ‘The Stage’, un o brif safleoedd cefnogwyr Fleetwood Mac yn y Deyrnas Unedig, gwefan swyddogol Stevie Nicks; a chan gynulleidfaoedd ecstatig ble bynnag y chwaraeodd y band, gan syfrdanu cynulleidfaoedd mor bell i ffwrdd â Dubai, St. Tropez, Ynysoedd y Cayman a Monte Carlo, a gwerthu pob tocyn ar gyfer Theatr fyd-enwog Minack yng Nghernyw ddwywaith.

Mae Fleetwood Bac hefyd wedi cael ei ddisgrifio gan bapur newydd The Times fel un o 5 band teyrnged gorau’r Deyrnas Unedig, ochr yn ochr â The Bootleg Beatles, Bjorn Again a’r Counterfeit Stones.

Ymhlith y cefnogwyr mae’r basydd Mac gwreiddiol a’r cofiannydd Bob Brunning, a ymunodd â’r band sawl gwaith ar y llwyfan, a Martin Celmins, sef cofiannydd swyddogol Peter Green.

Mae’r sain, yr edrychiad, yr awyrgylch gyfriniol a chemeg ar y llwyfan i gyd yn cael eu portreadu gyda’r angerdd a’r egni a gafodd sêl bendith ‘Big Daddy’ Mick, ac sydd wedi magu enw rhagorol ymhlith dilynwyr Mac drwy nifer o deithiau, ymddangosiadau mewn gwyliau, digwyddiadau corfforaethol a slotiau teledu a radio ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.