Y Goron yn y Chwarel

10:00, 30 Gorffennaf

Am ddim

Ydych chi’n hoff o ddirgelion? Dewch i’r Llyfrgell felly i gwrdd â’r awdur a’r bardd Myrddin ap Dafydd i glywed ychydig o’i lyfr, Y Goron yn y Chwarel ac i greu eich stori ddirgel eich hun mewn gweithdy ysgrifennu creadigol.

Ar ôl cael eich ysbrydoli gan lyfr Myrddin, craffwch ar ypaentiad The Stonemason’s Yard gan Canaletto i weld pa ddirgelion sydd ynddo – pwy sy’n cuddio yn y cysgodion neu’n gwylio o’r adeiladau crand?

Mae Y Goron yn y Chwarel wedi’i osod ym Mlaenau Ffestiniog yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yn dilyn faciwî ifanc o Lerpwl sy’n darganfod trysor yn chwareli Manod – yr union fan lle’r oedd The Stonemason’s Yard yn cael ei gadw’n ystod y Rhyfel.

Mae’r digwyddiad yn addas i blant rhwng 11 a 14 mlwydd oed.

Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg.