Gweithdy creu Gif hefo Sioned Young (Mwydro)

14:00, 29 Mai

Am Ddim

Ymunwch a ni yn Storiel am bnawn hwyl o waith dylunio a thechnoleg gyda Sioned Young sylfaenydd cwmni darlunio digidol Mwydro , gweithdy i greu Gif . Bydd y gweithdy yma yn archwilio pwysigrwydd defnyddio a gwarchod Enwau Lleoedd Cymraeg a rhoi cyfle i blant i ddewis Enw Lle o fewn eu milltir sgwâr i’w drawsnewid yn GIF unigryw.

Mae sticeri GIFs yn ddelweddau llonydd sydd wedi’u hanimeiddio a gellir eu defnyddio ar amryw o blatfformau gan gynnwys Instagram, TikTok a Snapchat.

Budd I-Pads ar gael i’w defnyddio ar y diwrnod, neu dowch a’ch ipad/ gliniadur eich hun

Am fwy o wybodaeth ewch i wefa Storiel https://www.storiel.cymru/