Gweithgareddau Crefft Llwyn Am Ddim

09:30, 27 Awst

Am ddim ond angen archebu lle

Gweithgareddau Crefft Llwyn Am Ddim! Dewch am fore llawn hwyl ym Mharc y Moch, addas i blant 7-12 oed (plant o dan 9 i fod gydag oedolyn). Wnawn ni gyfarfod yn Llys Dafydd i ddal y bws trydan cymunedol i Fryn Bella. Nifer llefydd cyfyngedig, rhaid archebu lle o flaen llaw.

Cysylltwch gyda ni i archebu eich lle neu am ragor o wybodaeth – gofod@ogwen.org neu 01248 602131 

Diolch i Adra ac Elusen Ogwen am noddi’r gweithgaredd yma.