Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru

10:00, 7 Medi – 18:00, 8 Medi

Am ddim

Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 

Cynhelir yr Ŵyl Fwyd eleni ar 7-8 Medi 2024.

Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, mae Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.

Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy’n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth fyw gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.

Cynhelir digwyddiadau i’r teulu mewn amryw leoliadau ar draws yr amgueddfa, o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas – bydd digon i gadw’r rhai bach yn brysur! 

O pizza i tacos, toesenni i hufen iâ – bydd rhywbeth at ddant pawb!  Bydd yna hefyd ddigon o opsiynau ar gyfer prydau llysieuol, fegan a bwydydd heb glwten.  

Mynediad am ddim. Codir tâl parcio dyddiol arferol yr Amgueddfa (£7)