Bydd yr ŵyl yn dathlu 25 mlynedd eleni a bydd dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yno i blesio’r ymwelwyr, gydag ambell i stondin crefft yno hefyd.

Bellach yn denu tua 10,000 o ymwelwyr, mae Gŵyl Fwyd Llanbed yn rhoi cyfle i lawer o gynhyrchwyr bwyd a diod bach ac annibynnol y rhanbarth gyrraedd cynulleidfa llawer ehangach gyda blasu a samplau, gan dynnu sylw at y cynyrch gwych sydd ar gael yma yng Nghymru.

Daeth yr Ŵyl Fwyd I fodolaeth am y tro cyntaf yn 1998, diolch i Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan. Cymaint oedd llwyddiant y digwyddiad agoriadol hwnnw a gyda mwy o gynhyrchwyr a hyd yn oed mwy o ymwelwyr eisiau cymryd rhan roedd rhaid meddwl am leoliad arall. Cysylltodd aelodau’r Siambr â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda’r bwriad o gynnal y digwyddiad ar gampws Llambed y flwyddyn ganlynol. Mae’r gweddill yn hanes!

Gyda’r bond cryf hwnnw wedi’i ffurfio rhwng y Dref a’r Brifysgol cynhaliwyd gŵyl 1999 ar y campws. Agorodd y Brenin Siarl, y Tywysog Cymru ar y pryd, y digwyddiad.

Diolch i gefnogaeth barhaus y Brifysgol, roedd y cam yn galluogi’r ŵyl i barhau i adeiladu llwyfan ar gyfer arddangos ein cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig gwych, ond ychydig o’r trefnwyr gwreiddiol hynny a allai fod wedi dychmygu bryd hynny y byddai’r digwyddiad blynyddol yn tyfu i’r graddau y mae wedi. Mae trefnwyr yr ŵyl yn falch iawn felly mai’r gwestai arbennig fydd yn agor y digwyddiad yn swyddogol eleni ganol dydd fydd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Bydd Maer Tref Llambed, y Cynghorydd Gabrielle Davies (Cadi & Grace) a Chadeirydd y Siambr Fasnach Sandra Louise Jervis (Creative Cove), a fydd wedi beirniadu’r gwahanol gategorïau yn ein cystadleuaeth stondinwyr yno hefyd yn gwobrwyo’r gwobrau i’r enillwyr ar y diwrnod. Thema’r digwyddiad eleni yw Calon Geltaidd, gan dynnu sylw at y balchder sydd gennym dros ein gwreiddiau Celtaidd.

Bydd nifer o arddangosfeydd coginio yn digwydd hefyd, ac mae’r trefnwyr yn falch iawn o gadarnhau y bydd y lein-yp eleni unwaith eto yn cynnwys staff a myfyrwyr o adran arlwyo  Coleg Ceredigion.

Dywedodd Huw Morgan, Darlithydd Arlwyo a Lletygarwch Coleg Ceredigion: “‘Ar gyfer ein harddangosiad eleni, rydym wedi penderfynu cyflwyno’r gorau sydd gan Orllewin Cymru i’w gynnig.

“Yng nghwmni rhai o’n dysgwyr, bydd ein Darlithydd Cogydd byd-enwog, Sam Everton, yn eich cyflwyno i fyd Helgig, gan ddangos y technegau a’r dulliau a ddefnyddir i greu canapés hyfryd.

“Byddaf yn archwilio maes gwasanaeth bwyd a choctels, gan bwysleisio’r defnydd o gynnyrch lleol. Bydd hyn yn cynnwys arddangos flambé, gwin, a choctels sydd ar gael yn ein Bwyty Hyfforddi, Bwyty Maes y Parc, sydd wedi’i leoli ar Gampws Aberteifi yng Ngholeg Ceredigion.”

Bydd arddangosiadau coginio eraill yn cynnwys yr awdur arobryn a’r homesteader cynaliadwy, Stephanie Hafferty, a fydd yn arddangos From Plot to Plate, a bydd Meinir Evans, merch leol sydd wedi creu ei busnes ei hun, Brownies Hathren, yn diddanu’r gynulleidfa gyda Pethau Melys, i ddod a’r gornel goginio i’w therfyn eleni.

Yn y cyfamser, bydd Gareth Johns o Westy’r Wynnstay a Llysgennad Cymru ar gyfer ‘Slow Food’ yn cychwyn am 11 yb wrth iddo greu seigiau yn defnyddio cynnyrch o’r Wyl.  

Bydd y gornel goginio eleni yn cael ei chynnal yn Neuadd Lloyd Thomas ym mhen isaf y campws. Bydd llawer mwy o seddi nag arfer. Mae hwn hefyd yn gyfle i ymwelwyr fwynhau tir y campws wrth iddynt gerdded i lawr i’r lleoliad.

Hefyd yn bresennol yn yr Ŵyl Fwyd bydd Marchnad LlaMBED, a gynhelir ar ail a phedwerydd dydd Sadwrn pob mis ar y campws ac sy’n disgyn ar yr un diwrnod eleni. Enillodd y Farchnad Wobr ‘Slow Food’ y DU am y Farchnad Orau yng Nghymru yn 2021, gan brofi bod gan gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru le pwysig yn economi bwyd ein Cenedl. 

Dros y blynyddoedd, mae’r ŵyl wedi bod yn ddiolchgar i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi helpu i dalu am gost y digwyddiad a sicrhau bod Gŵyl Fwyd Llanbed wedi dod yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr Gŵyliau Bwyd a Diod Cymru. Mae trefnwyr yn hynod ddiolchgar felly bod yr Is-adran Fwyd a Diod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu cefnogaeth ariannol ar gyfer eleni. Rhaid estyn diolch hefyd i’r canlynol; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, LAS, NFUCymru a Dunbia am noddi’r digwyddiad unwaith eto eleni.

Gyda digon o werthwyr bwyd a llawer i ddiddanu’r plant, mae gan yr ŵyl rywbeth i bawb.  Bydd y babell adloniant arferol ar gael eto eleni, gydag uchafbwyntiau yn cynnwys Côr Cwmann, Clwb Ukelele Llanbedr Pont Steffan, Robin Rae, Daley Bee, Corisma, Chris Kelly a mwy.

Ar y cyfan, mae’r digwyddiad eleni yn argoeli i fod yn atyniad gwych arall i’r gymuned leol ac ymwelwyr wrth dynnu sylw at bwysigrwydd y diwydiant bwyd a diod i economi Cymru. Ni allai hyn oll fod yn bosibl heb gefnogaeth cymaint o wirfoddolwyr. Gormod i’w henwi, ond maen nhw i gyd yn gwybod pwy ydyn nhw!!

Felly rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur nawr a dewch i Ŵyl Fwyd Llanbed ar gampws Y Drindod Dewi Sant ar ddydd Sadwrn, 27 Gorffennaf. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae’n dechrau am 10am tan 5pm gyda pharcio bathodyn glas ar gael ar y safle a pharcio pellach ar gae chwaraeon Pontfaen campws Llambed, sydd ar y dde wrth i chi ddod i mewn i Lanbedr Pont Steffan ar yr A475 o Gastellnewydd Emlyn. Byddwch hefyd yn gallu edrych ar yr ystod eang o siopau a bwytai yn Llanbedr Pont Steffan wrth i chi gerdded i’r ŵyl.

Am fwy o wybodaeth, anfonwch neges e-bost foodfest@lampeterevents.co.uk  neu ewch i’n gwefan

 https://lampeterevents.co.uk