Hel Hanes Gerlan dros baned a sgwrs

16:00, 25 Hydref

Dewch i’r Caban i rannu eich straeon am y pentref, Ysgol Gerlan a’r neuadd. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Dewch ac unrhyw luniau sydd gennych yn cuddio’n y tŷ efo chi. Gadewch i ni wybod os ydych chi angen cludiant ac fe geisiwn ein gorau i drefnu lifft draw i chi. Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu gyda mi, Caren Brown, dros e bost (carenelaine@hotmail.com) neu ffonio 07789916166, Edrychwn mlaen i’ch gweld.

Os nad ydych yn gallu dod Nos Wener y 25ain o Hydref, bydd cyfle arall i chi ddod draw bore dydd Sadwrn y 26ain o Hydref (10-12.30)

Bydd ein Aelod Cynulliad, Sian Gwenllian, yn ymuno efo ni nos Wener hefyd.