Mae Pwyllgor Neuadd Goffa Mynydd Llandygai ar y cyd efo Menter Iaith Bangor a LleCHI LleNi yn cyflwyno noson am hanes Y Streic Fawr ym mhentrefi Mynydd Llandygai a Rhiwlas, dan ofal Arwyn Oliver a Cynrig Hughes.
Mae hi’n siŵr o fod yn noson ddifyr dros ben – felly, dewch draw i’r Neuadd erbyn 7 yr hwyr. Mi fydd cyfieithu ar y pryd ar gael, a lluniaeth ysgafn i ddilyn.