Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill

£4 yr helfa

Datryswch y posau yn ein Helfa Basg er mwyn hawlio eich siocled blasus!    

Bydd tair her llawn hwyl ar eich cyfer!    

1. Dewch i gyfri…  

Mae gan bob un o’r cwningod cudd fasged o wyau. Sawl ŵy sydd yn eu basgedi? Ysgrifennwch y rhif yn yr ŵy gwag ar y daflen.  

2. Gweld y Gwahaniaeth… defnyddiwch eich llygaid craff i weld y gwahaniaeth rhwng gwahanol gwningod yr Amgueddfa.  

3. Yr Ŵy Aur… ac i chi dditectifs gwerth eich halen, allwch chi ddod o hyd i’r ŵy aur bach iawn iawn sy’n cuddio yn yr amgueddfa?  

£4 yr helfa – yn cynnwys gwobr siocled.

Prynwch eich tocynnau heddiw i osgoi cael eich siomi!  Archebu ar-lein yn unig.