Haf o Hwyl ym Mhlas Newydd

20 Gorffennaf – 1 Medi

Visitors in the tree house at Plas Newydd, Anglesey, Wales

Ydych chi’n barod i adael i’ch dychymyg redeg yn wyllt ym Mhlas Newydd?

Mae pum gweithgaredd i’w harchwilio, a fyddwch chi’n artist, yn fardd, yn athletwr neu’n ddawnsiwr?

Byddwch yn greadigol gyda chelf wyllt yn yr arboretwm ac ysgrifennwch farddoniaeth yn y goedwig. Edrychwch allan tuag at y Fenai ac arluniwch fel arlunydd. Dawnsiwch, troellwch a gwisgwch fyny yn yr Ystafell Gerdd. Gallwch hyd yn oed gystadlu mewn mabolgampau eich hun, mae digon i’w wneud yr haf hwn!

Mae gweithgareddau Haf o Hwyl am ddim (mae mynediad arferol yn berthnasol), felly gallwch chi roi cynnig ar bopeth a dod yn ôl dro ar ôl tro.