Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill

£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM

Mae @ParentsForFuture_Ceredigion yn gyffrous hwyluso dangosiad o’r ffilm SIX INCHES OF SOIL – stori ysbrydoledig am ffermwyr ifanc o Brydain yn sefyll yn gadarn yn erbyn y system fwyd ddiwydiannol NAWR ac yn trawsnewid y ffordd y maent yn cynhyrchu bwyd – i wella’r pridd, ein hiechyd a darparu ar gyfer cymunedau lleol.

Trafodaeth banel i ddilyn gyda ffermwyr a thyfwyr lleol a sesiwn HacA gyda’r gynulleidfa. Gyda Ieuan Davies, Nathan Richards, Debbie Mercer, Patrick Holden a Joe Wilkins.

Darparir lluniaeth wedi’w cynhyrchu yn lleol a chynaliadwy.