Ar Lafar -Digwyddiad i oedolion sy’n dysgu Cymraeg

10:00, 20 Ebrill

Mynediad am ddim. (mae rhai gweithgareddau yn talwch beth allwch chi)

Digwyddiad i oedolion sy’n dysgu Cymraeg!  Archebwch tocynnau isod.

  • 10am-11am: Gweithdy Ffeltio Gwlyb gydag ein priff crefftwraig, Non Mitchell. Dysgwch sgil newydd wrth ddysgu Cymraeg! (Am Ddim- rhaid archebu tocyn)
  • 11.30am-12.30pm: Mwynhewch daith tywys gan ein prif crefftwraig, Non Mitchell o amgylch Amgueddfa Wlân  Cymru. Darganfyddwch mwy am y proses o ddafad i ddefnydd a gweld arddangosiadau ar y peiriannau hanesyddol gan ein crefftwyr dan hyfforddiant. 
  • 12.30pm-1.30pm: Ymunwch â ni am sesiwn hwyliog gyda’r torrwr record a phencampwr byd clocsio, Tudur Phillips  fydd wrth law i ddysgu camau dawns clocsio hawdd i chi wrth ddysgu Cymraeg. (Rhaid archebu tocyn-Talwch beth allwch chi £3 neu £5)
  • 1.30pm-2.30pm: Ymunwch â’r cerddor Delyth Jenkins i ddysgu Cymraeg trwy ganu.

Delyth Jenkins – Celtic Harpist from Wales (delyth-jenkins.co.uk) 

  •  2.30pm-3.30pm: Sketchy Welsh 

Mae Joshua Morgan yn ddarlunydd proffesiynol sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn darlunio ei ffordd drwy’r Gymraeg dan faner Sketchy Welsh. Mae Sketchy Welsh yn cyfuno brawddegau Cymraeg gyda darluniau cofiadwy mewn ymgais i helpu i wneud y broses ddysgu yn haws ac yn fwy pleserus.

Yn ei weithdy, bydd yn gwahodd pobl i roi cynnig ar rai o’r technegau y mae’n eu defnyddio i ddarlunio a gwneud dysgu Cymraeg hyd yn oed yn fwy ystyrlon. (Rhaid archebu tocyn-Talwch beth allwch chi £3 neu £5)

Sketchy Welsh