Marchnad Lleu

10:00, 21 Medi

Marchnad leol i dyfwyr a chynhyrchwyr adral Dyffryn Nantlle. Caffi yn gwerthu bwyd rhâd a maethlon. Bydd Sesiwn Dawnsio Llinell am 10:00 ac am 12:00. Hefyd mae Claire yn dod draw i roi cyflwyniad ar eplesu llysiau am 10:30 tan 11:30. Cewch flasu bwydydd wedi’u heplesu. Ar ol llwyddiant casglu dillad a thegannau i Antur Waunfawr yn y Gwanwyn – ewch ati i wagio’ch wardrob a chypyrddau at y Gaeaf – yn ddillad, bagiau, esgidiau a thegannau a taro hwy yn y Farchnad. Bydd bwrdd gwerthu/cyfnewid gormodedd o ffrwythau a llysiau hefyd. Cofiwch alw, cewch groeso!