Marchnad Nadolig y Felinheli

16:00, 15 Rhagfyr 2024

£3 i oedolion, am ddim i blant

Croeso i bawb i Farchnad Nadolig y Felinheli, wedi’i threfnu gan Ŵyl y Felinheli. Mae’r digwyddiad hwn yn un o draddodiadau’r Felinheli bellach, ac yn un sy’n annwyl gan bobol y pentref. Mae’n gyfle i bawb ddod ynghyd cyn prysurdeb yr ŵyl, ac mae’n braf gweld cynifer o wynebau cyfarwydd sydd wedi gadael y pentref i fyw, gweithio neu astudio.

 

Mae’r farchnad ei hun yn cynnwys stondinau cynnyrch,  cerddoriaeth gan fand pres, canu carolau, Siôn Corn i’r plant, a gwin cynnes a mins pei. Tocynnau’n £3 i oedolion ac am ddim i blant.

 

Ychwanegwyd elfen newydd i’r digwyddiad y llynedd sef cystadleuaeth coginio cacen ar thema’r Nadolig. Roedd y gystadleuaeth mor llwyddiannus rydan ni wedi penderfynu cynnal un debyg eleni.

 

Mae’r gystadleuaeth creu pizza ar thema’r Nadolig yn agored i bawb; yn deuluoedd, criwiau, neu unigolion. Dewch â’r pitsa i’w feirniadu yn Neuadd Goffa’r pentref fel rhan o’n Marchnad Nadolig ar 15 Rhagfyr, erbyn 5 o’r gloch.