Mewn Sgwrs gyda Kim Atkinson & Noelle Griffiths (Arddangosfa Gardd Mwsog)

14:00, 13 Medi

Am Ddim

Ymunwch â ni am sgwrs fanwl gyda’r artistiaid Kim Atkinson a Noelle Griffiths am eu harddangosfa ar y cyd, “Moss Garden,” sy’n cael ei harddangos ar hyn o bryd yn Storiel. Mae’r arddangosfa hon o ffolios, paentiadau a phrintiau yn archwilio gwahanol agweddau ar goedwigoedd glaw Celtaidd Gogledd Cymru a Choedwig Is-Antarctig De Chile.

“Ers 2010, rydym wedi cyfarfod bob tymor i weld a chofnodi ein profiadau o fod ym myd natur drwy arlunio, paentio ac ysgrifennu, gan gyfoethogi ein harfer fel artistiaid. Mae’r arddangosfa’n cynnwys tair ffolio ochr yn ochr â phaentiadau cysylltiedig a llyfrau artistiaid”.