Ymunwch â Gwyneth Lewis, un o feirdd mwyaf adnabyddus y Deyrnas Unedig, yn y digwyddiad arbennig hwn yn dilyn cyhoeddi ei hunangofiant Nightshade Mother. Wrth ysgrifennu am y boen iddi ddioddef yn nwylo ei mam, dyma’r llyfr y mae Gwyneth wedi bod yn paratoi i’w ysgrifennu ar hyd ei hoes.
Gwyneth Lewis oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, a chyfansoddodd y geiriau sy’n ymestyn chwe throedfedd o uchder i addurno Canolfan Mileniwm Cymru. Mae hi wedi ysgrifennu naw cyfrol o farddoniaeth, gydag un arall yn dod y flwyddyn nesaf, a derbyniodd MBE yn 2023 am wasanaethau i lenyddiaeth ac iechyd meddwl.
Bydd yr Athro Matthew Jarvis, Uwch Ddarlithydd Llenyddiaeth a Lle yn Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â Gwyneth ar gyfer y digwyddiad hwn. Prif ffocws ymchwil Matthew yw barddoniaeth Eingl-Cymreig ar ôl yr 1960au.
Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg.