Mae Banc Bwyd Arfon yn fenter gymunedol drefnwyd gan Caernarfon Pentecostal Church (Canolfan Gwyrfai, Lon Cae Ffynnon, Caernarfon, LL55 2BD) mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Trussell, sefydliad Cristnogol sy’n helpu eglwysi lleol a chymunedau i fynd i’r afael â thlodi ac allgáu mewn trefi a dinasoedd yn y Deyrnas Unedig.
Dyma gyfle i bobl sy fel arfer mewn gwaith yn ystod y dydd i ddod atom ni i ddysgu mwy am y banc bwyd a sut maen nhw’n medru bod yn rhan o’n gwaith ni.
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae’r banc bwyd yn gweithio? Ydych chi eisiau helpu ond ddim yn siŵr sut? Os felly, dewch i’n noson agored i ddarganfod beth mae ein gwirfoddolwyr gwych yn ei wneud mewn diwrnod.
Byddwn ni yn y banc bwyd i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am wirfoddoli a dangos i chi sut y gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymuned. Ac bydd panad a darn a gacen i’ch croesawu chi fama.