Noson Ddarlleniadau “O syniad i sgript”

19:00, 28 Hydref

Cyfle i wylio pedair drama wreiddiol… yn rhad ac am ddim!

Mae cwmni Theatr Troed-y-rhiw, mewn partneriaeth â Bwrlwm Arfor ac CFFI Cymru yn cynnal darlleniad o bedair drama wreiddiol yn Theatr Fach Llangefni, Nos Lun 28ain o Hydref am 7yh.

Mae’r dramâu wedi cael eu hysgrifennu gan bedwar dramodwr lleol – Glenys Davies, Cedron Sion, Lowri Larsen a Mared Edwards sydd wedi bod yn brysur yn sgriptio ers dechrau’r haf. Ac mae’r pedwar ohonynt wedi bod yn cael eu mentora gan ddramodwyr proffesiynol gan gynnwys y talentog Siân Summers, Branwen Davies, Iola Ynyr a Mared Llywelyn yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae’n argyhoeddi i fod yn noson gwerth chweil, gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc a thalent leol yn perfformio detholiadau o’r dramâu newydd.

Bydd y dramâu yn cael eu cyhoeddi’n llawn yn llyfrgell dramâu Theatr Troed-y-rhiw ym mis Rhagfyr. Byddan nhw ar gael i gwmnïau drama, Clybiau Ffermwyr Ifanc a chymdeithasau lleol eu perfformio, gyda rhai o’r dramâu hefyd yn cael i’w perfformio’n llawn yn ŵyl ddrama Theatr Troed-y-rhiw yng ngwanwyn 2025.