Noson Gemau

19:30, 9 Medi

Am ddim hyd nes aelodaeth

Noson gymdeithasol o gemau hwyliog yn Neuadd Llanllyfni i groesawu aelodau presennol a newydd i’r clwb. Mae’r clwb yn agored i unrhyw bobl ifanc rhwng bl.9 a 30 mlwydd oed. Does dim angen bod yn rhan o’r byd amaeth i ymuno gan bod y clwb yn cynnig cyfleoedd i gystadlu a chymryd rhan mewn ystod o wahanol gystadlaethau, tripiau a digwyddiadau amrywiol, megis chwaraeon, Eisteddfod, barnu anifeiliaid, Siarad Cyhoeddus a llawer mwy.

Mae’r clwb yn cyfarfod pob Nos Lun am 7.30 yn Neuadd Llanllyfni yn bennaf. Gyda rhaglen amrywiol mae rhywbeth i bawb. Am fwy o wybodaeth ewch i’n tudalen facebook neu instagram CFFI Dyffryn Nantlle, ymunwch a’r grwp facebook Aelodau CFFI Dyffryn Nantlle neu cysylltwch drwy e-bost cffidyffrynnantlle@gmail.com.

Mae hon yn flwyddyn arbennig i ymuno gyda’r clwb gan ein bod yn dathlu ein penblwydd yn 80 mlwydd oed felly dewch i fod yn rhan o’r dathliadau!