Noson Siopa Hwyr- Dolig Gwyrdd Warws Werdd

16:00, 21 Tachwedd 2024

Noson Siopa Hwyr – Dolig Gwyrdd yn Warws Werdd Dewch draw i Warws Werdd ar nos Iau, Tachwedd 21ain rhwng 4.00yp a 8.00yh ar gyfer ein Noson Siopa Hwyr Nadolig arbennig! Cynaliadwy, fforddiadwy, ac yn llawn anrhegion a gweithgareddau Nadoligaidd i’r teulu i gyd—bydd rhywbeth i bawb!

Beth sydd ymlaen?

-Dillad ac ategolion Nadoligaidd newydd ac ail-law
-Gweithdy crefftau Nadolig
-Perfformiad gan Côr Lleisiau Llawen i godi’ch calon
-Nwyddau Bwyd a Diod Antur Waunfawr – seidr, hamperi jamiau a chutney
-Anrhegion wedi’u personoleiddio wedi’u gwneud yn Warws Werdd
-Photobooth Nadoligaidd a chystadleuaeth arbennig!
-Raffl gyda gwobrau gwych!

Bydd digon o syniadau anrhegion a gweithgareddau i wneud eich Nadolig yn wyrdd ac yn gofiadwy! Gwnewch i’ch Nadolig sgleinio gyda anrhegion unigryw sy’n gofalu am ein planed ac eich pwrs!

-Pryd? Dydd Iau, Tachwedd 21ain
-Amser? 4.00yp – 8.00yh
-Lleoliad? Warws Werdd, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon LL55 2BD