Operation Julie

19:30, 15 Mai

£25/£23

Mae’r sioe lwyddiannus a werthodd allan haf diwethaf yn ôl i ‘prog-rocio’r DU.

Mae Theatr na nÓg a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth yn cyflwyno un o’r straeon gwir fwyaf anhygoel i ddod allan o Gymru erioed… OPERATION JULIE.

Mae ‘Breaking Bad’ yn cyfuno â ‘The Good Life’ yn y ddrama anarchaidd hon gyda cherddoriaeth ‘prog-rock’ o’r 70au, wedi’i berfformio’n fyw ar lwyfan gan 9 actor-gerddorion talentog. Mae’n adrodd stori anhygoel yr ymgyrch cuddiedig arweiniodd at ddwsinau o arestiadau a darganfyddiad LSD gwerth £100 miliwn, a chwalodd un o rwydweithiau cyffuriau mwyaf rhyfeddol a welodd y byd erioed.

Canllaw Oed: 14+

Theatr Bryn Terfel, Pontio