Rhodri Jones : Bardd hefo Camera (Darlith Cyhoeddus)

14:00, 24 Medi

Am Ddim

Ymunwch a ni yn Storiel , Amgueddfa Gwynedd am sgwrs anffurfiol gyda’r ffotograffydd dogfennol, Rhodri Jones. Bydd y sgwrs pnawn yma yn cynnwys Rhodri yn trafod ei waith ai arddull drwy yrfa 35 mlynedd. Dull o themâu o hunaniaeth diwylliannol ai drawsnewid cyson.

Bydd Rhodri hefyd yn ein tywys o amgylch ei arddangosfa diweddaraf, Cofio (casgliad o waith personol) yn Amgueddfa Cymunedol Storiel. Tra yn trafod rhai or prif prosiectau mae wedi gweithio ar yn rhwngladol dros y blynyddoedd gyda digon o gyfleon i ofyn cwestiynau .

Ganwyd Rhodri yn Wynedd yn 1963, ac eisoes wedi ymsefydlu ger Bologna , Yr Eidal ers y flwyddyn 2000. Mae wedi gweithio fel ffotograffydd proffesiynol ar waith personol a comisiynau rhwngladol ers 1989 a wedi cael nifer o gyfrolau ffotograffic wedi ei cyhoeddi; Made in China (Logos Art, Yr Eidal 2002) Return / Yn Ôl (Seren, Cymru 2006) Hinterland (L’artiere, Yr Eidal 2010)Scambi Ferroviari (L’artiere Yr Eidal 2011) Cosi E (L’artiere Yr Eidal 2015) Marconi Express (Forma, Yr Eidal 2019) a Cofio (Gwasg Carreg Gwalch , Cymru 2024)

Fe ddisgrifiodd y ffotograffydd Magnum, Philip Jones Griffiths , Rhodri Jones fel Bardd hefo Camera .Mae gwaith Rhodri wedi ei arddangos yn China, Yr Iwerdd, Gwlad Groeg, Yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, y Deyrnas Unedig ar Unol daleithiau o America . Mae ei waith hefyd wedi cael ei dangos mewn arddangosfeydd cymysg yn Awstria, Canada , Yr Almaen, Siapan, Mecsico, a De Affrica.

Mae waith wedi cael ei ddosbarthu gan Panos Pictures ers 1992 , a mae waith wedi ymddangos yn cylchgronau a papurau newydd amlwg. Mae waith hefyd mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus trwy gydol y byd .