Sesiwn Blasu Gwehyddu Helyg gyda Karla Pearce

10:00, 18 Gorffennaf

£40

Ymunwch â’r creftwraig basgedi, Karla Pearce, i roi cynnig ar y grefft o wehyddu helyg mewn amgylchedd cefnogol ac ymlaciol. Yn ystod y gweithdy hanner diwrnod hwn, byddwch yn cael eich tywys drwy dechnegau gwehyddu amrywiol er mwyn creu bwydwr adar o helyg i ddal peli saim – gallwch fynd â hwn adref gyda chi wedyn i’w hongian yn yr ardd. Hefyd, byddwch yn dysgu sut i wehyddu helics er mwyn creu gwas y neidr addurniadol i’w arddangos y tu mewn neu’r tu allan. ⁠Mae’r gweithdy hwn, sy’n ddelfrydol i ddechreuwyr, yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar weithio gyda helyg a chwrdd â phobl eraill sydd â diddordeb yn y grefft dreftadaeth hon.

Darperir yr holl ddeunyddiau ac offer ac mae lluniaeth wedi’i gynnwys yn y pris.