Sesiwn Taro Heibio Gwyrfai Gwyrdd a DEG – cyngor ynni

17:00, 26 Tachwedd

Ymunwch â Gwyrfai Gwyrdd a DEG am sesiynau galw heibio arbennig ar Dachwedd 26!

Mae Gwenno ac Osian o DEG yma i roi cyngor arbed ynni gwerthfawr i chi.

  • Cyngor a chefnogaeth i aelwydydd i’w galluogi i leihau eu biliau ynni trwy leihau gwastraff ynni diangen.
  • Cyngor a chefnogaeth ar gyfer problemau sy’n gysylltiedig â boeleri, inswleiddio, lleithder, llwydni, cyddwysiad a charbon monocsid.
  • Cyfle i ymuno â’r Gofrestr Gwasanethau â Blaenoriaeth.
  • Bwlb golau LED am ddim!!
  • Cyfeirio at asiantaethau eraill a all roi cyngor a chefnogaeth efo tlodi tanwydd.
  • Gwiriad budd-daliadau a chyngor ar grantiau fel ECO4, Nyth.
  • gwenno@deg.cymru, 07495 237679

Gwyrfai Gwyrdd:

Fe allwch ddysgu mwy am waith Gwyrfai Gwyrdd a’r ddiweddaraf ar:

➡ Sefydlu Clwb Ynni Gwyrfai (trydan 25% rhatach i aelodau!)

➡ Prosiectau Solar Cymunedol a Gwresogi Cymunol