Sinfonia Cymru, Patrick Rimes a Cerys Hafana

8 Chwefror

Safonol: £16 Dros 60: £14 Plentyn (dan 18): £7.50 Myfyrwyr: £7.50

Paratowch i gael eich cludo i dir lle mae pryderon yn pylu i ffwrdd a gadewch i synau lleddfol y feiolinydd traddodiadol Patrick Rimes a Sinfonia Cymru ysgubo drosoch chi. Yn cynnwys caneuon gan y delynores a’r gantores Cerys Hafana, byddwch yn ymgolli yn straeon swynol a thraddodiadau cyfoethog Cymru, yn cael eu canu mewn iaith mor hen â’r bryniau ac mor fywiog â’r sêr.

Bydd yr ymasiad hwn o draddodiadol a chlasurol yn gadael i chi ymlacio a chysylltu â gwlad y gân. Dihangwch rhag y prysurdeb, bachwch eich hoff bobl, a gadewch i’r gerddoriaeth eich cario i ffwrdd.

Nid hwn mo’ch cyngerdd cyffredin — mae’n ddihangfa gerddorol i galon ac enaid Cymru.

Mae ein Taith Wanwyn gyda Patrick Rimes a Cerys Hafana wedi’i chefnogi gan The Open Fund for Organisations gan y Sefydliad PRS.