Taith ARFOR – Sioe Cymrix yn cyrraedd Theatr Felinfach!

14:30, 16 Tachwedd 2024

Am Ddim

Taith ARFOR – Sioe Cymrix yn cyrraedd Theatr Felinfach!

Ar y cyd gyda Chwmni Theatr Arad Goch mae Llwyddo’n Lleol wedi trefnu sioeau cymunedol ar gyfer teuluoedd siroedd ARFOR sef Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd a Môn.

Mae Taith ARFOR – Cymrix yn ddigwyddiad i’r teulu cyfan ac yn gyfle i bawb ddod ynghyd i wylio drama newydd, cyffrous gan y dramodydd Alun Saunders sydd yn ymdrin â hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg trwy lygaid tri pherson ifanc.  I ddilyn y perfformiad, bydd gweithdy hwyliog i’r plant o dan arweiniad Ffion Bowen – lle bydd yna gyfle iddynt serennu wrth gyfleu’r gorau o’u hardal leol!

Mi fydd gan brosiect Llwyddo’n Lleol stondin ar y diwrnod i rannu gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael o fewn ARFOR ac i ymgysylltu gyda thrigolion cymunedau’r ardal.

Felly, dewch draw i Theatr Felinfach, 2:30yp dydd Sadwrn 16eg o Dachwedd, 2024, am sioe a gweithdy egnïol sy’n rhoi cyfle i’r plant ymfalchïo yn ei hardal leol. 

Mae’r tocynnau yn RHAD AC AM DDIM ond mae angen archebu eich lle cyn gynted â phosib drwy gofrestru ar wefan Theatr Felinfach – https://theatrfelinfach.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/873649652

Welwn ni chi yna! 

Addas ar gyfer 7+