Taith gerdded Chwarel Dorothea, Chwarel Pen-y-bryn a Chwarel Cilgwyn

10:00, 21 Medi 2024

Mae taith gerdded nesa Yr Orsaf ar ddydd Sadwrn, Medi 21.

Dewch am dro efo ni drwy Chwarel Dorothea, Chwarel Pen-y-bryn a Chwarel Cilgwyn a gweld golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Nantlle!

Cyfarfod 10yb yn maes parcio Canolfan Talysarn.

Mae hon yn daith ychydig mwy heriol na’r lleill, felly bydd angen sgidia cerdded da a digon o ddŵr, a chofiwch wisgo’n briodol i’r tywydd.

Cysylltwch i archebu lle – llioelenid.yrorsaf@gmail.com