Taith Gerdded Ysgol a Cylch Meithrin Talgarreg

17:00, 13 Medi

Cynhelir taith gerdded Ysgol Gymunedol Talgarreg ar y cyd â Chylch Meithrin a Ti a Fi Talgarreg ar nos Wener, 13eg o Fedi (os bydd y tywydd yn caniatáu).

Mae croeso i bawb ymuno â ni i gyd-gerdded y siwrnai 3 milltir, gan ymgynnull am 5yh ar sgwâr Alltmaen (lle saf y Garreg Wen). Ceir peth lle i barcio trwy garedigrwydd teulu Evans, Henbant, ond argymhellir i bawb rannu ceir cymaint â phosib. Bydd yn cymryd ychydig dros awr i ni gyrraedd terfyn y daith ym mhentref Talgarreg.

Bydd opsiwn i archebu swper o’r dafarn.

Bydd taflenni nawdd gan ddisgyblion Ysgol Talgarreg, a phlant Cylch Meithrin a Ti a Fi Talgarreg, a diolchwn i bawb am eu nawdd caredig.