“Dy Werth” Sgwrs a Gweithdy efo Rebecca F Hardy

18:30, 24 Medi

Am ddim

Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda’r artist lleol Rebecca F Hardy – bydd yn siarad am ei phrofiadau o ddefnyddio’r Gofod Gwneud a sut mae wedi dylanwadu ar ei gwaith a’i chynllun cynnyrch. Dilynir hyn gan weithdy yn defnyddio peiriannau Gofod Gwneud i greu gemwaith wedi’i ailgylchu. Am fwy o wybodaeth ac i gadw eich lle, cysylltwch â gofod@ogwen.org.