Mae WiFi Wars yn dychwelyd gyda’r sioe gêm gomedi fyw lle rydych chi i gyd yn chwarae! Mewngofnodwch gyda’ch ffôn clyfar neu dabled a chystadlu mewn amrywiaeth o gemau, posau a chwisiau i ennill y sioe, a gwobrau!
Dan ofal y digrifwr Steve McNeil (capten tîm ar raglen gomedi/chwaraeon boblogaidd y Deyrnas Unedig “Dara O’Briain’s Go 8 Bit”) a gyda chymorth Rob Sedgebeer, yr arbenigwr techoleg sydd wedi torri record Guinness y byd!
Argymhellir ar gyfer oedran 6+ (prynhawn), 12+ (gyda’r nos)
Bydd gemau a chwisiau hollol wahanol ym mhob sioe, os hoffech ddod i’r ddwy!
Dydd Sadwrn 26 Hydref
3.30pm + 7pm