Wynne Evans: A Christmas Special

20:00, 19 Rhagfyr

£41.50

Canllaw Oedran: 12+

Trefn Amseri: 60/20/60

Mae seren Strictly Come Dancing 2024 a Phencampwr MasterChef, Wynne Evans, yn dod â’i lais Tenor operatig anhygoel i’r llwyfan! Mae’r cyngerdd arbennig hwn yn cynnwys y caneuon Nadolig gorau a chaneuon o albwm cyntaf Wynne, A Song in My Heart, a aeth yn syth i dop siartiau’r albymau clasurol.

Yn enw cyfarwydd bellach, mae Wynne yn gyflwynydd ar BBC Radio Wales ac yn ymddangos yn rheolaidd fel Gio Compario yn yr hysbysebion Go Compare ar y teledu. Mae Wynne wedi perfformio fel y prif denor gydag Opera Genedlaethol Cymru, gan ymddangos yn Nhŷ Opera Brenhinol Covent Garden, Opera De Lyon ym Mharis a’r Tŷ Opera Metropolitanaidd yn Efrog Newydd. Derbyniodd ganmoliaeth frwd am ei berfformiad yn Neuadd Frenhinol Albert fel Piangi yng nghyngerdd pen-blwydd The Phantom of the Opera yn 25 oed.

Yn perfformio amrywiaeth o’r ariâu mwyaf poblogaidd, caneuon y theatr gerddorol a chlasuron poblogaidd, bydd Wynne yn ymddangos ar y llwyfan gyda band byw a nifer o gantorion gwadd.

 Dyma noson na ddylid ei methu!

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.