Mae Ystrad Fflur yn awyddus i agor eu drysau ddydd Sadwrn 23 Tachwedd, i groesawu Jaqcueline Yallop, a fydd yn dychwelyd i arwain cwrs yn benodol ar gyfer ysgrifennu creadigol am y tywyllwch a’i le yn ein bywydau. Mae’r safle’n llawn ysbrydoliaeth ysgrifenedig, ac mae’n lleoliad delfrydol i archwilio thema tywyllwch oherwydd ei lygredd golau isel a bod lai na milltir i ffwrdd o Safle Darganfod Awyr Dywyll. Cost y sesiwn hon fydd £40, lle bydd un yn cael ei arwain drwy’r broses o saernïo eu testun eu hunain gyda’r thema hon a’r safle hardd hwn fel ysbrydoliaeth. Mae’r broses o ysgrifennu creadigol wedi cael ei disgrifio fel un cathartig a therapiwtig, neu’n dda i’r enaid, felly mae hwn yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd, naill ai gyda ffrindiau neu rywbeth ar eich pen eich hun i fynegi eich hun mewn ffordd newydd a chreadigol. Os ydych chi erioed wedi cael eich temtio i weld beth allai ddod allan o ddiwedd eich pen, neu fysedd os teipio, yna mae hwn yn gyfle gwych o dan arweiniad ac arbenigedd Jacqueline.