Theatr Cymru: Byth Bythoedd Amen

19:30, 8 Chwefror

£10-£14

Byth Bythoedd Amen gan Mared Jarman

“Ma bywyd yn brutal. Ond mae’n gallu bod yn biwtifful hefyd.”

Pop glas, Jäger bombs a sgrolio Tinder.
Gweiddi chwil a karaoke yw curiad y ddinas.
Strydoedd yn llawn “livin’ for the weekend”…

Yn ddinesig, yn ddoniol ac yn dywyll, dyma ddrama newydd gan Mared Jarman am gariad, colled a bywyd fel pobl ifanc anabl mewn byd sy’n blaenoriaethu’r brif ffrwd. Bydd Mared – sy’n llais newydd a chyffrous i fyd y theatr Gymraeg – hefyd yn ymddangos fel Lottie, ochr yn ochr â’i chyd-actor Paul Davies, dan gyfarwyddyd Rhian Blythe.

Bydd Taith Gyffwrdd cyn y sioe am 6.30pm gan Eilir Gwyn. Am ddim ond bydd angen tocyn

Sain Ddisgrifiad Cymraeg (10 dyfais ar gael)

Capsiynau Cymraeg a Saesneg

Canllaw Oed: 16+
Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed