Cylch Ti a Fi Rhos Helyg

09:15, 13 Ionawr

£2

Mae Cylch Ti a Fi newydd yn dechrau, wedi ei gynnal gan Hwb Cymunedol Ysgol Rhos Helyg ac mewn cyd-weithrediad â Chylch Meithrin Llangeitho yn Neuadd Jiwbilî, Llangeitho.

Bydd y cylch yn rhedeg bob bore Llun rhwng 9.15am ac 11am. Cost y sesiwn fydd £2 y teulu, yn cynnwys byrbrydau iach i’r plant a thê/coffi i’r oedolion.

Os am ragor o fanylion, cysylltwch ar whatsapp ar 07811398556.

Dewch yn llu i chwarae gyda ni ac ymuno â theulu estynedig Ysgol Rhos Helyg!