Côr Eifionydd, Côr Dre a Mared Williams
Dewch i ddathlu Gŵyl Dewi gyda gwledd o gerddoriaeth Gymreig yng nghwmni dau o gorau cymysg disglair y gogledd.
Bydd y rhaglen gan Côr Eifionydd a Côr Dre yn cynnwys perfformiad o gampwaith Karl Jenkins, Symphonic Adiemus, yn ogystal â rhai o’u hoff ganeuon – y cyfoes a’r traddodiadol. Yn ymuno â hwy bydd y gantores ddawnus Mared Williams, un o leisiau hyfrytaf Cymru.
Mae’n addo i fod yn noson wych o adloniant, ac yn sicr yn ffordd deilwng i ddymuno Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb!