Dathliad Blwyddyn Newydd Cerddorfa WNO

19:00, 10 Ionawr

£5-£24

Bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn llenwi’r awyr â waltsiau penigamp, polcas sionc, a’r holl glasuron y byddech chi’n disgwyl eu mwynhau yn nehongliad ardderchog y WNO o gyngherddau Blwyddyn Newydd traddodiadol Fienna.

Bydd y cyngerdd hwn yn cynnwys ffefrynnau fel Josef Strauss a Johann Strauss II, ac yn llawn enghreifftiau o gerddoriaeth Fienna ar ei gorau.

Dan gyfarwyddyd Arweinydd Cerddorfa’r WNO a’r Cyngerdd-feistr David Adams, bydd Artistiaid Cyswllt WNO, Erin Rossington a William Stevens yn ymuno â’r Gerddorfa.