Chwilio am rhywbeth i’r plant wneud dros wyliau hanner tymor Chwefor? Beth am archebu lle yn ein diwrnod hwyl draw yng Nghanolfan Esceifiog, Gaerwen?!
Bydd gweithdy celf gan yr artist amryddawn Lisa Eurgain Taylor, disgo distaw, gemau a gweithgareddau hwyliog a llawer mwy! Agored ar gyfer aelodau’r Urdd sydd ym mlynyddoedd 3-6. Ddim yn aelod eto? Mae posib ymaelodi ar-lein drwy wefan yr Urdd https://porth.urdd.cymru. Am unrhyw ymholiad pellach, cysylltwch â iwanwilliams@urdd.org neu ffoniwch 01248 565882.