Noson yng nghwmni Eurgain Haf

19:00, 23 Ionawr

Am ddim

Dyma gyfle arbennig i gwrdd ag Eurgain Haf i drafod ei nofel Y Morfarch Arian a chlywed am ei gwaith a’i bywyd. Os hoffech chi ymuno â’r sesiwn, anfonwch e-bost at riv1@aber.ac.uk, ac anfonir y ddolen atoch yn nes at y dyddiad.

Mae iaith y nofel yn goeth ac hynod o hardd gyda chymeriadau sy’n aros yn y cof. Gan fod yr iaith yn dafodieithol mewn mannau, ceir taflenni geirfa yma i hwyluso’r darllen.

Dyma ichi ambell ddyfyniad o’r feirniadaeth:

Clywn lais nodedig y prif gymeriad, merch 13 oed o’r enw Heli, o’r frawddeg gyntaf y nofel. Nid yw’n llais cyfforddus i wrando arno ar adegau ond mae hynny’n dyst i ddawn yr awdur i dreiddio i feddwl un sy’n dioddef o OCD. Nid nofel drom, lafurus mohoni er hynny. (Annes Glyn)

Mae’r ysgrifennu yn gadarn: ceir disgrifiadau cywrain a barddonol ar adegau, cymeriadau cryf, plotio da a deialog gredadwy drwyddi draw…..Mae’r nofel hon…yn cyfareddu, ac yn aros gyda’r darllenydd am gyfnod hir wedi’i darllen. (Elen Ifan)

Dyma ysgrifennu synhwyrus, dychmygus sydd yn defnyddio hiwmor, cynhesrwydd a thensiwn. (John Roberts)

Croeso cynnes i bawb. Rhowch gynnig arni!