Paned i’r Blaned

10:30, 25 Ionawr

Am Ddim

Ydych chi eisiau dod i drafod newid hinsawdd mewn gofod gefnogol, anffurfiol, dros baned da a chacen flasus?

Bydd Paned i’r Blaned yn cychwyn ar y 25ain o Ionawr am 10:30 yn Ystafell Gymunedol Llawr Top Canolfan Cefnfaes.

Bwriad Paned i’r Blaned ydi rhoi gofod i bobl ddod at ei gilydd i drafod materion amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i bawb gynnig pynciau trafod, a fydd yn newid bob sesiwn: o natur a bioamrywiaeth i dechnoleg, o ynni i drafnidiaeth. Y pwnc ar y 25ain o Ionawr bydd Newid Hinsawdd a newidiadau lleol, hefo’r bwriad i gyfarfod unwaith y mis wedyn. 

Rydym yn gobeithio bydd Paned i’r Blaned yn ofod cyfforddus, amyneddgar i bobl ddefnyddio eu Cymraeg ac ehangu eu geirfa. Rydym yn galw ar siaradwyr rhugl i roi cefnogaeth i’r rhai sydd eisiau ymarfer eu Cymraeg ond efallai yn llai hyderus. Bydd geirfa i’w wneud â phwnc y mis ar gael i helpu. 

Fel rhan o weithgareddau GwyrddNi, mi fydd Chris Roberts o Partneriaeth Ogwen yn trefnu a hwyluso i gychwyn, gyda’r gobaith y bydd mynychwyr eisiau parhau i wneud hyn o fewn amser. 

Mae’r syniad wedi ei ysbrydoli gan bethau fel Climate Cafes, People, Planet, Pint, a Paned a Sgwrs – cyfleoedd i bobl drafod materion hinsawdd mewn ffordd anffurfiol, wedi’u harwain gan y gymuned. Gyda mwy a mwy o bobl yn bryderus am newid hinsawdd, mae sesiynau fel hyn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws y byd. 

Does dim tâl am y sesiwn (na’r baned/cacen!), felly dewch draw am sgwrs ddiddorol!