Buodd rhaid i ni ohirio’r daith gerdded yn Ninas Dinlle oherwydd y storm cyn y Nadolig! Felly da ni wedi ei ail-drefnu ar gyfer bore dydd Sul, 26 Ionawr, am 10am. Taith o tua awran yn mynd am dro o amgylch Dinas Dinlle, a panad i ddilyn! Mae’r tywydd yn gallu bod yn ansefydlog adeg yma o’r flwyddyn felly gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd – bydd angen dillad cynnes, cot law ac esgidiau cerdded sy’n dal dŵr (pwysig iawn!) – lapiwch yn gynnes!
Byddwn yn cyfarfod tu allan i’r toiledau a’r cae swings ger y maes parcio am 10am. Mae trafnidiaeth ar gael o’r Orsaf ym Mhenygroes am 9:30am. Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle cysylltwch efo llioelenid.yrorsaf@gmail.com
Cyfarfod 10am yn maes parcio Dinas Dinlle, ger y toiledau. Taith hamddenol o ryw awran. Gwisgwch yn briodol i’r tywydd. Cysylltwch am fwy o wybodaeth ac i archebu lle