Mae Cymdeithas Taith Dyffryn Teifi yn cynnal cyfres o deithiau cerdded rhad ac am ddim ar hyd y llwybr a dyma fanylion y daith gerdded nesaf.
Cestyll a Rhaeadrau – Castell Newydd Emlyn i Genarth
Taith Gerdded Gylchol tua 6 milltir (opsiwn 3 milltir hefyd)
Dydd Sul, Ionawr 26ain 2025
Cyfarfod am 10yb ym Maes Parcio Mart Castell Newydd Emlyn, SA38 9BA (Tâl parcio £1.70)
Byddwn yn cerdded ar lannau gogleddol a deheuol Afon Teifi heddiw o Gastell Newydd Emlyn i Genarth ac yn ôl trwy goetir, ar hyd llwybrau a ffyrdd tawel. Opsiwn ar gyfer taith gerdded 3 milltir fyrrach gyda throsglwyddiad bws yn ôl i CNE (£3 y teithiwr).
Cynnigir te/coffi am ddim drwy garedigrwydd Eglwys Sant Llawddog yng Nghenarth a Theatr yr Attic ar y diwedd yn CNE.
Dim tâl am gerdded. Sori dim cwn. Dewch â dillad glaw, esgidiau cryf a chinio gyda chi.