WYTHNOS BRECWAST FFERMDY UNDEB AMAETHWYR CYMRU 2025
Cyfle gwych i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, Cronfa Sioe Fawr Sir Gaernarfon 2025 a Chanolfan Y Fron
Gwahoddwn chi trwy garedigrwydd y trefnwyr Arwyn Roberts a Nia Williams i frecwasta gyda ni yng nghaffi Canolfan Y Fron, Llandwrog Uchaf. Mae’n un o 6 o leoliadau ar draws yr hen Sir Gaernarfon ble fydd teuluoedd fferm yn paratoi brecwast llawn i cyn gymaint o bobl a phosib, achlysur sydd yn cymryd lle am y pymthegfed flwyddyn. Rydym eisioes wedi codi dros £78,000 yn ystod yr wythnos hon dros y blynyddoedd i gefnogi achosion lleol a chenedlaethol. Mae’n gyfle gwych i chi flasu cynnyrch o’r sir, cyfrannu yn hael at elusennau gwerth chweil, ac hefyd i gymdeithasu gyda phobl na fuasech fel arfer yn rhannu’r bwrdd brecwast gyda nhw, a thrafod #AmaethamByth!!! Ac os bydd y tywydd yn caniatau cewch fwynhau y golygfeydd godidog o’r lleoliad. Mae hyn i gyd am £10 gyda’r cwbl yn cael ei rannu rhwng yr elusennau. Mae CHWAREL Y FOEL TRYFAN QUARRY yn garedig iawn wedi noddi y brecwast yma ac rydym yn gwerthfawrogi hynny yn fawr iawn.
Dydd Sadwrn – 18/01/24 – Caffi Canolfan Y Fron, Llandwrog Uchaf, Caernarfon, LL54 7BB.
Os hoffech fynychu. a wnewch chi ffonio Arwyn Roberts ar 07831 448216 gan roi syniad o’r amser y byddwch yn galw i fewn, unrhyw bryd rhwng 8:00 ac 11:30. Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol eich hun gallwch yrru cynrychiloydd ar eich rhan.
Diolchwn ymlaen llaw am eich cefnogaeth See less