Ym mis Ebrill 2021, gofynnodd yr Amgueddfa Wlân i bobol leol wau, ffeltio, crosio neu wehyddu sgwariau lliw 20cm sgwâr er mwyn creu blanced amryliw i ddiolch i weithwyr iechyd ac allweddol ac i ddod â’r gymuned ynghyd ar adeg anodd. “Roedd yr enfys yn ganolog i’r prosiect,” meddai Ann Whittall, Pennaeth yr Amgueddfa. “Aeth si ar led am yr hyn roedden ni’n ei wneud, a chyn bo hir dechreuodd pobol ym mhob cwr o Gymru anfon sgwariau wedi’u gwneud o wlân, sidan, cotwm ac edeifion amrywiol eraill – beth bynnag a oedd wrth law.“