Arddangosfa gydweithredol yn rhan o Ŵyl Newydd 2021, wedi ei churadu gan Rhianwen Williams. Gwaith aml-gyfrwng gan artistiaid mewn ymateb i’r briff ‘Beth yw Cymreictod imi’. Mae Lucy Evans yn cyfleu personoliaeth liwgar ei mam a’i mam-gu yn ei gwaith, a Torri + Gludo (yr artist Cadi Jones) yn cyflwyno casgliad o’i gwaith diweddaraf, sef fideo cerddoriaeth ar gyfer y grŵp Omaloma, a dyluniad clawr ar gyfer sengl Geraint Rhys a Droja.