Cwmwl Tystion II/Riot!

19:30, 24 Tachwedd 2021

£15 (£13)

Mae Tomos Williams yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyda’r ail daith yn seiliedig ar ei brosiect Cwmwl Tystion.

Mae’r cerddorion adnabyddus Soweto Kinch ac Orphy Robinson yn ymuno â’r gantores Gymreig ifanc Eady Crawford ac adran rythm wych sef Aidan Thorne a Mark O’Connor, ochr yn ochr ag effeithiau gweledol byw gan Simon Proffitt, i greu perfformiad byw rhyngweithiol yn dwyn y teitl Cwmwl Tystion II / Riot!

Bydd y band yn perfformio cyfres a gyfansoddwyd o’r newydd sy’n cynnwys elfennau o jazz, hip-hop, yr avant-garde a cherddoriaeth werin Gymreig.

“Cyffrous, a chwbl Gymraeg…yn cynrychioli Cymru amlhiliol, amlddiwylliannol ac amlhaenog – yr hen a’r newydd yn dod ynghyd” – Sioned Webb, Barn