Cynllun Siarad
Dach chi’n siarad Cymraeg? Dach chi’n awyddus i helpu pobol sy’n dysgu Cymraeg?
Mae Siarad yn gynllun i helpu dysgwyr sy’n gallu cynnal sgwrs ac eisiau ymarfer. Dan ni’n chwilio am siaradwyr sy’n fodlon rhoi 10 awr o’u hamser (dros flwyddyn) i’w helpu nhw feithrin hyder a defnyddio mwy o Gymraeg.
Mae pob gwirfoddolwr dros 18 oed, ac mae’r parau yn cwrdd mewn llefydd cyhoeddus neu ar-lein. CHI sy’n dewis lle a phryd dach chi’n cyfarfod. Dyma ffordd ymarferol, hwylus, i helpu pobol sy’n dysgu Cymraeg ac yn awyddus i ddod yn rhugl.
Dan ni’n cynnal dwy sesiwn rithiol i gyflwyno’r cynllun. Ewch ar
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cyflwyno-siarad/
er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad yma (y dyddiad cau yw 12pm ar ddydd Mercher Hydref 20):
Dydd Iau, Hydref 21 am 2pm
Dydd Iau, Hydref 21 am 7pm
Dan ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi!