Gwrth-Hiliaeth

11:00, 26 Hydref 2021

Y cyntaf o gyfres newydd o ddarlithoedd, yng nghwmni’r awdur a’r ymgyrchydd Nova Reid a fydd yn trafod ei llyfr newydd The Good Ally. Mae’r llyfr yn gofyn wrth y darllenydd – sut mae bod yn wrth-hiliol go-iawn? Bydd hi’n sgwrsio gyda Matthew Williams, Athro Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr HateLab, a fydd hefyd yn trafod ei lyfr The Science of Hate, sy’n trin a thrafod sut mae rhagfarn yn dod yn gasineb a’r hyn y gallwn ni ei wneud i’w atal.