Gŵyl Bro Y Felinheli 

10:00, 4 Medi 2021

am ddim

Byddwn yn dathlu ein amgylchedd hyfryd gyda sesiwn blannu gyda Bwyd Bendigedig a sesiwn ffotograffiaeth i blant gyda Kristina Banholzer. Dewch i wrando ar Leisa Mererid yn darllen ei llyfr newydd, ‘Y Wariar Bach’ ac ymuno yn y sesiwn symud fydd yn dilyn. Bydd Osian Owen yn cynnal gweithdy barddoni i oedolion ac un i bobl ifanc. Bydd hwyl a sbri gyda criw Elfennau Gwyllt, a stondinau gyda thrigolion y pentref yn gwerthu eu crefftau. Bydd lluniaeth ar gael o Llofft Cymru ac i orffen y dathliad, cewch fwynhau gwrando ar Dylan a Neil yn canu.