Nos Wener, Ymryson y Beirdd yn nhafarn y Plu, Llanystumdwy, gyda’r Prifardd Tudur Dylan Jones yn Feuryn. Dydd Sadwrn, bydd lansiad llyfr, trafodaethau, gweithdai, a dangosiad o ffilmiau byrion gan artistiaid a beirdd sy’n arbrofi ac yn cyflwyno’u gwaith mewn ffyrdd newydd a gweledol. Fore Sul, taith gerdded lenyddol gyda’r Prifardd Twm Morys (ni fydd yn addas ar gyfer pramiau oherwydd natur y llwybrau).
Bydd cerflun newydd Manon Awst i’w weld yng ngardd Tŷ Newydd, a bydd yr artist yno i sgwrsio am ei gwaith. Roedd y cerflun gwreiddiol yn rhan o’i harddangosfa ‘Anghysbell’ yn Oriel Glyn-y-Weddw, Llanbedrog dros yr haf, gyda charreg leol yn rhan ohono.
“Mi fydd yna garreg newydd ar y gadair yn Nhŷ Newydd, wedi ei chymryd o’r tir cyfagos,”meddai Manon Awst wrth Golwg. “Mae’r cerflun wastad yn newid, yn ddibynnol ar y safle a daeareg benodol yr ardal. Mae pwysau a siâp y garreg hefyd yn effeithio ar falans y gadair, felly mae’n gallu bod yn sialens ffeindio’r garreg iawn. Dw i’n edrych ymlaen at weld y cerflun y tu allan hefyd.” Creodd y gadair gyda Keith Tranmer o Anglesey Fabrication ym Miwmares. “Roedd yn hyfryd bod mewn gweithdy eto. Dw i wedi gweithio gyda Keith sawl gwaith, gan gynnwys wrth greu strwythur ’Tu Hwnt’, y cerflun yn Nant Gwrtheyrn.”